Gynt Capel Methodistaidd Seion

Capel Seion Brynsadler

Mae Capel Methodistaidd Seion ar ben bryn Brynsadler ger lle mae Heol Llanhari yn troi oddi ar Heol y Bont-faen. Cafodd ei adeiladu ym 1826 a’i ailadeiladu ym 1863. Pregethodd William Evans o Donyrefail yn y gwasanaeth cyntaf ym 1830.

Mae'r capel diweddarach wedi'i adeiladu yn yr arddull Pengrwn Syml a Romanésg o’r math ‘mynediad talcen’.

Bu'r Parchedig William Williams (1817-1900), gweinidog Methodistaidd Calfinaidd adnabyddus, yn rhedeg ysgol ym Mrynsadler am gryn amser - yn y capel hwn mae’n debyg.

Mae’n debyg bod gwreiddiau’r Capel mewn Cymdeithas Fethodistaidd a oedd yn cyfarfod yn Nhwll-y-Cardotyn yn Nhal-y-garn – Tŷ Newydd yw hwn erbyn hyn, fferm ar ochr y Bont-faen o Dal-y-garn.

Gallai hyd at 300 eistedd yn y Capel, a oedd yn enfawr o ystyried nad oedd yna lawr cyntaf ac mai dim ond 162 o bobl oedd yn byw ym Mrynsadler ym 1871. Roedd y capel cynharach hefyd yn fawr – roedd tua 150 o bobl yn mynychu fel arfer ym 1841, ynghyd â 120 o ysgolheigion. Yn ogystal, yn y nosweithiau roedd tua 200 yn mynychu yn rheolaidd.

Roedd y gwasanaethau yn Gymraeg ac wrth i boblogaeth Saesneg Brynsadler dyfu, gwelwyd galw am wasanaethau Saesneg ac am gyfnod roedd gwasanaethau dwyieithog yn digwydd ond erbyn tua 1910 roedd yr aelodau Saesneg eu hiaith wedi symud i Gapel Hope ym Mhont-y-clun.

Erbyn 1974 roedd y capel hwn wedi'i drawsnewid at ddefnydd preswyl.

Blwch post Siôr VI ym Mrynsadler

Ychydig i lawr y bryn o'r capel ar ochr arall y ffordd mae ’na flwch post Siôr VI

Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pont-y-clun ewch i'n hamgueddfa ar-lein

crossmenu linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram