Ysgol Gynradd Pont-y-clun
Agorwyd yr ysgol “iawn” gyntaf ym Mhont-y-clun ym mis Chwefror 1880 ar y stryd a enwyd yn Stryd yr Ysgol.
Ysgol Genedlaethol Gorsaf Llantrisant oedd hon, ac roedd yn dysgu disgyblion 5-10 oed. Ym 1893 codwyd yr oedran isaf ar gyfer gadael ysgol i 11, a 12 ym 1899.
Doedd yr ysgol byth yn ddigon mawr, a gyda’r oedrannau gadael yn codi cafodd ei llenwi’n ddigon buan. Erbyn 1905 roedd ’na dros 300 o ddisgyblion. Cyn adeiladu Eglwys Sant Paul roedd gwasanaethau Sul hefyd yn cael eu cynnal yn yr Ysgol.
Roedd angen ysgol newydd a chafodd un ei chymeradwyo a’i lleoli ym Maes-y-felin. Yn anffodus, doedd yr ysgol ddim yn newydd, a dweud y gwir! Daeth o Gwmafan ar ôl cael ei defnyddio am 8 mlynedd yno, ac roedd wedi’i gwneud o haearn rhychog a’i leinio ar y tu mewn gyda byrddau pren. Roedd “ysgol tun” Pont-y-clun yma ac yn cynnwys 6 ystafell ddosbarth.
Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd pwysau’n cynyddu i agor ysgol barhaol ym Mhont-y-clun a lluniwyd y cynlluniau cyntaf ym mis Mai 1919 ar gyfer ysgol i ddarparu ar gyfer 300 o ddisgyblion cymysg a 150 o fabanod. Y gost ddisgwyliedig oedd £14,875 ond daeth y tendr terfynol i bron £19,000. Roedd hynny’n ormod felly lluniwyd cynlluniau newydd. Cytunwyd ar gynllun terfynol ym mis Mai 1923 ar gost o £10,415, ar yr amod na fyddai neb yn cytuno i unrhyw gostau ychwanegol!
Cwblhawyd y gwaith ar 29 Awst 1925 ac agorwyd yr ysgol newydd yn ffurfiol ar 31 Awst 1925. Y gost derfynol oedd £9,681, yn gyfforddus o dan y gyllideb.
Disodlwyd yr ysgol hon yn y 2020au, gydag adeilad deulawr newydd yn agor yn 2025.
Roedd yr ysgol hon ar gyfer plant oedran cynradd y cyfnod, ac er bod tir wedi’i roi i’r Cyngor ar gyfer ysgol uwchradd – yr ardal ger y Parc, y caeau rygbi a chaeau’r Clwb Pêl-droed, ni chafodd ei hadeiladu fyth a bu’n rhaid aros 30 mlynedd arall i’r ysgol uwchradd gael ei hadeiladu yn y Pant.
Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pont-y-clun ewch i’n hamgueddfa ar-lein