
Mae'r ffermdy gwreiddiol yma, o'r enw Mwyndy Bach, yn dyddio'n ôl i 1570. Mae'n debyg ei fod yn dŷ Cymreig hir gyda beudai ynghlwm wedi'u gorchuddio â gwellt. Yn ddiweddarach, codwyd y waliau i wneud ystafelloedd gwely ar y llawr cyntaf gyda tho teils carreg.
Ym 1988 cafodd yr ysgubor amaethyddol ei throsi’n dafarn a bwyty gwledig (caeodd ddechrau’r 2020au)
Yn y cefn mae bwthyn ar wahân a adeiladwyd ddiwedd y 1600au ar gyfer gweision tŷ Mwyndy (sydd gerllaw). Mae'r bwthyn wedi'i adeiladu o garreg gyda tho llechi.
Am ragor o wybodaeth am hanes cymuned Pont-y-clun, ewch i'n hamgueddfa ar-lein.