
Adeiladwyd yr Ivor Arms tua 1855 gan William Morgan o fferm Caergwanaf (Billy Caergwanaf i’w ffrindiau) ym Meisgyn. Fe agorodd ar 12 Gorffennaf 1855.
Credwn fod yr enw’n deillio naill ai o enw perchennog y tir ar adeg y gwaith adeiladu (Ivor Bertie Guest) neu’r ffaith bod yr Iforiaid lleol yn cyfarfod yn y dafarn. Roedd yr Iforiaid yn urdd ddyngarol a oedd yn cefnogi'r iaith Gymraeg, yn trefnu Eisteddfodau, a hefyd yn cefnogi'r tlawd a'r anghenus. Roedden nhw'n cynnal eu busnes yn gyfan gwbl yn Gymraeg.
Roedd hanes o fragu ym Mrynsadler – enw safle'r Ivor oedd Fferm Bragdy, ac ym 1840 roedd Ydlan Bracty ger mynedfa Tŷ Tal-y-garn. (Roedd Ydlan yn cael ei defnyddio i storio haidd neu rawn. Y Bracty oedd lle roedd grawn yn cael ei baratoi, fel arfer i'w fragu.)
Yr ochr arall i’r ffordd mae hen safle Crown Brewery.
Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pont-y-clun ewch i'n hamgueddfa ar-lein