Tir rhwng Ysgol Llantrisant a Bryn Amlwg

Possible site of bronze age barrow

Ychydig i'r de o Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant mae cae agored gyda choed a llwybrau’n arwain trwyddo.

Ynghanol llwyn trwchus, mae twmpath siâp pedol gyda'i agoriad yn wynebu tua’r gogledd-ddwyrain.

Gallai hwn fod yn feddrod crwn o'r Oes Efydd, ond nid oes unrhyw ddarganfyddiadau wedi'u cofnodi.

Mae'r maint a'r lleoliad yn addas ar gyfer beddrod, gan ei fod ar grib, ond gallai hefyd fod yn dwmpath melin wynt. Dimensiynau: Diamedr o 20m o leiaf, uchder tua 2m

Ychydig i'r de o'r llwybr sy'n arwain at Fryn Amlwg mae rhai olion cnydau o ddyddiad amhenodol hefyd.

Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pont-y-clun ewch i'n hamgueddfa ar-lein  

crossmenu linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram