Stiwt a Chlwb Athletwyr Pont-y-clun
Mae’r Stiwt yn cynnwys prif adeilad gyda lawnt fowlio a maes parcio tu ôl. Mae ar Heol Castan ym Mhont-y-clun.
Cafodd ei adeiladu gan Godfrey Clark ym 1910 i helpu i gyfoethogi bywydau cymdeithasol a diwylliannol trigolion Pont-y-clun.
Roedd Godfrey Clark yn fab i George Clark, y Meistr Haearn a adeiladodd Dŷ Tal-y-garn. Roedd yn ddiwydiannwr, yn Ynad Heddwch ac yn Uchel Siryf Morgannwg ym 1897.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf defnyddiwyd y Stiwt gan y Groes Goch Brydeinig fel ysbyty dros dro.
Agorodd yr ysbyty ar 24 Mawrth 1915 gan gau ym mis Chwefror 1919 wedi trin tua 660 o filwyr. Yn y Stiwt mae ’na blac, y talwyd amdano gan Mr Wyndham Damer Clarke (mab Godfrey), sy’n coffáu’r cyfnod hwn.
Roedd 3 ward, swyddfeydd a chyfleusterau, a digon o ofod awyr agored. Roedd yr ysbyty’n cael ei rhedeg yn bennaf gan wirfoddolwyr o gangen Cymorth Gwirfoddol Menywod Pont-y-clun, Llanilltud Faerdref a Llanharan, er bod ’na rai staff cyflogedig hefyd. Bu dros 70 o bobl yn gweithio yn yr Ysbyty ar ryw adeg.
Ar wal yr ystafell Snwcer mae lluniau sy’n cyfleu rhywfaint o hanes biliards a snwcer yn y Clwb Athletwyr. O’r cychwyn cyntaf, gwnaed darpariaeth ar gyfer ystafell filiards a dau fwrdd biliards. Roedd biliards yn cael ei chwarae at ddibenion hamdden ac nid oedd yr aelodau’n cystadlu yn y cynghreiriau biliards lleol.
Yn ddiweddarach daeth snwcer yn fwy poblogaidd ac ymaelodwyd â chynghrair snwcer. Yn y gorffennol roedd chwaraewyr proffesiynol yn arddangos eu sgiliau snwcer mewn digwyddiadau arbennig yma.
Erbyn 1941 roedd lawnt fowlio a chyrtiau tennis wedi’u hadeiladu, ond erbyn diwedd y 1950au roedd y Stiwt yn wynebu amseroedd caled, a gwnaed penderfyniad i’w ailenwi’n Glwb Athletwyr Pont-y-clun, a fyddai hefyd yn darparu ar gyfer pêl-droed, rygbi a chriced.
Erbyn y 1960au roedd Clwb Rygbi Pont-y-clun wedi’i leoli yn y Stiwt ac roedd wedi adeiladu enw da am letygarwch gwych. Byddai timau’n aml yn gorymdeithio o’r Stiwt i’r caeau chwarae dan arweiniad band, gan wneud y gêmau’n achlysuron arbennig.
Ynghanol y chwedegau cafodd y Stiwt ganiatâd i werthu alcohol er mwyn codi mwy o arian i’w ailfuddsoddi i gynnal a chadw’r adeilad a’r tiroedd.
Mae’r cyrtiau tennis bellach wedi hen ddiflannu ar ôl cael eu troi’n faes parcio.
Mae mwy o wybodaeth am ei rôl fel ysbyty yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar gael yma
Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pont-y-clun ewch i’n hamgueddfa ar-lein