
Roedd sawl nodwedd hanesyddol i’w gweld ar hyd Heol Miskin o Bont-y-clun i Feisgyn sydd bellach wedi'u gorchuddio gan y ffordd a thai.
Yn yr ardal uwchben Heol Miskin roedd rhai nodweddion crwn i’w gweld.
Olion cnydau tywyll oedd yn weladwy yn bennaf, ond roedd dau i’w gweld ar ffurf twmpathau o dir yn y 1940au. Roedd un o’r olion cnydau hyn yn gylch tywyll gyda chanol goleuach. Roedd y nodweddion hyn yn gylchol yn bennaf (tua 5m mewn diamedr), ond roedd o leiaf un ôl cnwd mwy, siâp ŵy a oedd yn tua 10m o hyd.
Mae'n anodd dehongli’r olion cnydau crwn hyn yn bendant, ond o ystyried presenoldeb darganfyddiadau cynhanesyddol yn agos at y safle, mae posibilrwydd cryf fod y nodweddion hyn yn arwydd o ddefnydd cynhanesyddol o'r tir, o bosib fel mynwent, safle anheddiad, neu gyfuniad o'r ddau.
Ar hyd llinell Heol Miskin roedd dwy amddiffynfa gylch o’r Oes Efydd mae’n debyg – maent i’w gweld ar fapiau cofnod ym 1955. Roedd y rhain wedi'u datgelu gan sychder, ar y llethr i'r de, ac roedden nhw’n tua 20-25m mewn diamedr, gyda thwf gwahanol y glaswellt yn awgrymu ffosydd o tua 2m o led.
Coetiroedd o'r ffordd i lawr at yr Afon
Dangosir y coedwigoedd hyn fel coedwigoedd sefydledig mewn hen fapiau Arolwg Ordnans o 1874 sy'n golygu eu bod nhw’n debygol o fod o leiaf 200 mlwydd oed.
I lawr yn y coed ger y gwaith carthffosiaeth modern mae olion Hendy Isaf. Roedd yr adeilad hwn eisoes yno erbyn 1840 ond mae bellach yn adfail.
Dyma lle cafodd Enoch Jenkins (1982-1984) ei eni, a threuliodd ran gynnar ei fywyd yna hefyd. Roedd Enoch yn saethwr Olympaidd a gystadlodd yng ngemau 1920, 1924 a 1952. Roedd hefyd yn hen ewythr i Neil Jenkins, y chwaraewr rygbi cyntaf i sgorio mwy na 1000 o bwyntiau rhyngwladol.