Pyllau Mwyndy

Ym 1547 roedd William Herbert yn toddi haearn ym Mwyndy (a elwid bryd hynny yn Mwynddu). Roedd wedi derbyn siarteri a roddwyd iddo gan Harri VIII ac Edward VI. Yn wreiddiol, mae'n bosibl bod y mwyngloddiau'n weithfeydd glo brig a drifft yng nghyffiniau Tŷ Mwyndy, yn fras lle mae ystâd ddiwydiannol a phyllau Mwyndy fodern nawr.

Roeddent yn cael eu hadnabod fel pyllau Mwynddu.

Cafodd y pyllau eu gweithio'n helaeth fel chwareli yn y 18fed a'r 19eg ganrif hefyd.

Efallai fod hyn wedi dinistrio gweithfeydd cynharach, a awgrymwyd ym 1903 eu bod o ddyddiad Rhufeinig nad oes unrhyw olion ohonynt bellach. Roedd y pyllau, a oedd wedi'u lleoli yn union i'r gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain o'r tŷ, wedi'u llenwi neu wedi dod yn llawn dŵr erbyn 1956.

Dywedir bod rhawiau pren o darddiad Rhufeinig wedi'u darganfod mewn hen weithfeydd. Hefyd mae wal enfawr ar hyd y ffordd i Groes Faen y dywedir ei bod yn Rhufeinig.

Am ragor o wybodaeth am hanes cymuned Pont-y-clun ewch i'n hamgueddfa ar-lein

crossmenu linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram