"Mynachlog" Sant Cawrdaf

The ruins of a monastery

Enw’r adfail hwn yn y caeau i'r gogledd o Faenor Meisgyn ac i'r dwyrain o'r A4119 yw mynachlog Sant Cawrdaf yn Alltygawrddu, Meisgyn ac mae wedi ymddangos ar fapiau ers 1849, yn ôl pob tebyg yn dilyn datganiad gan Iolo Morgannwg.

Dangosodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) ym 1982 mai tŷ libart canoloesol ydoedd, ac mae unrhyw olion sy'n sefyll yn rhai plasty canoloesol. Credai un o arolygwyr henebion Cadw ym 1987 fod yr adeilad hwn wedi'i adeiladu tua'r 1840au, o bosib yn gynharach, ac mae'n debyg mai gwaith y ffugiwr/rhamantydd/breuddwydiwr enwog Iolo Morgannwg ydyw!

Yn ôl y sôn, mae tafarn y Castell Mynach gerllaw ar yr A4119 wedi’i enwi ar ôl yr adeilad hwn.

Yr ochr arall i’r A4119 ger Tŷ'r Coleg roedd Capel yn dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif o leiaf – Capel Llangoed.

crossmenu linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram