
Yn swatio ar lannau Afon Elái saif yr adeilad hynaf ym Mhont-y-clun – Melin Brynsadler. Enw arall arni yw’r "Felin Fawr," ac mae wedi sefyll yn ei lleoliad presennol lle mae Heol y Bont-faen yn croesi’r afon ers canrifoedd.
Melin ŷd oedd hi’n wreiddiol, a byddai'r boblogaeth leol yn dod â'u grawn wedi’i gynaeafu yno i’w falu'n flawd. Gellir olrhain gwreiddiau'r felin i'r 13eg ganrif o leiaf, oherwydd mae sôn amdani yn ewyllys Richard de Clare, a fu farw ym 1262, lle cyfeiriwyd ati fel Melin Brosley.
Roedd gan y felin hynafol hon statws arbennig – dyma’r unig gyfleuster lle byddai tenantiaid Arglwyddiaeth Meisgyn a Maenor Pentyrch a Chlun yn dod â'u grawn. Y prif arglwydd oedd yn gyfrifol am hyn oherwydd roedd ei diriogaeth yn cwmpasu'r felin. Fodd bynnag, roedd y swyddogaeth faenorol hon wedi hen ddarfod erbyn yr 16eg ganrif, a rhoddwyd y felin ar brydles i'r bonedd lleol, a’i gosododd ar is-brydles wedyn i’w tenantiaid.
Mae cofnodion yn dangos bod y felin, mor gynnar â 1540, yn eiddo i John Thomas Bassett o Bencoed yng Nghapel Llanilltern, ac erbyn 1570 roedd wedi mynd i ddwylo ei weddw, y Fonesig Elizabeth Walwyn. Yn fuan wedi hynny, daeth i feddiant George Mathew, mab isel-ach William Mathew o Radur yn ôl pob sôn, a oedd yn berchen ar ystâd Bryn Rhydd (neu Lanelay Fach erbyn hyn) yn Nhonysguboriau.
Ym 1638, prydleswyd y felin i Thomas Mathewe o Gastell Mynach, ac ym 1671, roedd yn dal i fod ym mherchnogaeth ei deulu, gyda'i ŵyr Thomas Mathew yn dal y brydles. Wrth i'r 18fed ganrif ddirwyn i ben, roedd y brydles yn nwylo Christopher Bassett o Lanelay, ar rent blynyddol o 18 swllt. Yn ystod y cyfnod hwn ailadeiladodd y teulu Bassett y felin. Dros y degawdau dilynol, aeth y felin trwy ddwylo nifer o berchnogion.
Erbyn 1935, roedd yn segur, er i'w holwyn ddŵr bren aros yn ei lle tan ganol y 1960au.
Heddiw, gallwch chi weld ffrwd y felin – y sianel lle llifai’r dŵr i bweru'r felin – yn y cae cyfagos o hyd, sy'n ein hatgoffa o dreftadaeth ddiwydiannol y llecyn heddychlon hwn.
Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pontyclun ewch i’n hamgueddfa ar-lein