
Yng nghanol Meisgyn mae sgwâr hyfryd iawn gydag ardal wyrdd a phorthdy, sy'n cael ei ddominyddu gan y Gofeb Rhyfel a thafarn y Miskin Arms
Mae'r gofeb Rhyfel yn coffáu trigolion Meisgyn a laddwyd neu a aeth ar goll yn y Rhyfel Byd Cyntaf (9 enw) a'r Ail Ryfel Byd (4 enw). Yn anarferol rhestrir enwau'r rhai a wasanaethodd (ac a ddychwelodd adre’n fyw) o'r Rhyfel Byd Cyntaf hefyd.
Fe'i gwnaed gan gwmni W. Clarke o Landaf a adeiladodd y gofeb ym Mhontyclun hefyd. Dechreuwyd y gwaith ar 14 Mawrth 1919. Cafodd y garreg Portland y mae wedi'i gwneud ohoni ei chludo ar y rheilffordd i orsaf Trelái yng Nghaerdydd ac yna ei chludo dros y tir oddi yno.
Cymerodd y gwaith tua 3000 o oriau gyda 17 o ddynion yn cael eu cyflogi ar un adeg neu'r llall ar y gwaith (ynghyd â'r amser i ddod â’r garreg o Gaerdydd).
Cwblhawyd y gwaith erbyn 3 Hydref, ac mae'r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn dweud iddo gael ei ddadorchuddio'n swyddogol ar 17 Ebrill 1920.
Anfonwyd bil am y gwaith at Mrs Williams o Miskin Manor gan Clarkes; swm o £344 a 6 swllt (tua £10k yn arian heddiw)
Cofnodwyd tafarn y Miskin Arms am y tro cyntaf yn 1871. Mae'n adeilad rhestredig gradd 2 gyda 2 lawr a 3 bae. Dros y blynyddoedd mae sawl estyniad wedi eu hychwanegu at ochr y prif adeilad ac mae gan y cefn estyniad mawr yn edrych dros y maes parcio a'r cefn gwlad y tu ôl.
Yn y cefn gwlad hwnnw, y tu hwnt i'r rheilffordd saif olion caer ategol Rufeinig sy'n dyddio'n ôl bron i 2000 o flynyddoedd.
Mae gan y sgwâr ei hun ychydig o nodweddion hanesyddol anarferol gan gynnwys blwch ffôn rhestredig a osodwyd ym 1955, dair blynedd ar ôl i'r Frenhines Elizabeth ddod i'r orsedd , er bod ganddo arwyddlun Brenin Siôr VI. Mae bellach wedi cael ei ail-bwrpasu i gartrefu diffibriliwr.
Ar draws y ffordd mae blwch Post George V.
Ychydig oddi ar y sgwâr mae Eglwys Dewi Sant. Adeiladwyd hwn yn 1907 gan ddefnyddio arian a godwyd gan roddion cyhoeddus ac o ddigwyddiadau codi arian.
Gall ymwelwyr sydd eisiau mynd oddi ar y llwybr ychydig i weld ychydig mwy o hanes lleol ddilyn y lôn rhwng y "porthdy" a'r arwydd hanes ac yna mynd yn syth i lawr y ffordd o'ch blaen nes cyrraedd clwb Criced Miskin Manor ac yna yn ddiweddarach Miskin Manor ei hun. Mae'n werth ymweld â'r ddau os oes gennych amser.