Maenoryd Meisgyn
Gellir olrhain tarddiad Maenor Meisgyn yn ôl i’r cyfnod canoloesol cynnar o leiaf, pan roedd ei thiroedd ym meddiant Nest, merch Tywysog Morgannwg, ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Mae cofnodion o ganol yr 16eg ganrif yn sôn am “borth Meisgyn,” sy’n awgrymu bod tŷ o statws yn meddiannu’r safle bryd hynny.
Erbyn 1610, roedd y faenor wedi pasio i ddwylo cangen o’r teulu Bassett o Hen Gastell y Bewpyr, gan aros gyda’r llinell fonheddig honno hyd 1857 pan gafodd ei gwerthu i David Williams, perchennog glo llwyddiannus. Roedd Williams, sef y bardd enwog “Alaw Goch,” hefyd yn gefnogwr brwd o ddiwylliant Cymru drwy ei gefnogaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol.
Ail-adeiladodd ac ehangodd y faenor ym 1864, gan sicrhau gwasanaeth David Vaughan, pensaer adnabyddus o Ben-y-bont ar Ogwr. Roedd y faenor neo-Jacobeaidd yn ymgorffori elfennau o’r annedd gynharach o’r 16eg/17eg ganrif, gyda’i chynllun afreolaidd a thrwch amrywiol y waliau’n bradychu ei chynseiliau Canoloesol.
O dan fab Williams, y Barnwr uchel ei barch Gwilym Williams, yr oedd ei wraig Emma’n ddisgynnydd i Nest drwy gyd-ddigwyddiad, gwnaed gwelliannau pellach i’r ystâd.
Cyrhaeddodd Maenor Meisgyn ei hanterth diwylliannol o dan Syr Rhys Williams ar ddechrau’r 20g. Yn fwrlwm o fywyd cymdeithas ffasiynol, croesawodd y faenor y darpar Edward VIII ar un o’i deithiau o Gymru yn y 1920au. Gwelwyd trychineb ym 1922 pan ddinistriwyd y tu mewn i’r adeilad gan dân mawr, gan adael dim ond y waliau allanol yn gyfan.
Ym 1940, gyda gwledydd Prydain yng nghrafangau’r Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd Maenor Meisgyn gan y Groes Goch fel ysbyty ymadfer a drosglwyddwyd i’r GIG ym 1948. Gwasanaethodd yr Arglwyddes Williams ei hun fel cadlywydd yn ystod y rhyfel a pharhaodd i fyw yma tan 1955.
Cafodd y faenor ei difa’n rhannol gan fflamau eto ym 1952 cyn iddi gael ei rhannu’n fflatiau wedi’r rhyfel.
Dechreuodd y bennod bresennol yng nghronicl Meisgyn ym 1985 pan werthwyd a throwyd yr ystâd yn blas-westy, gan warchod ei threftadaeth bensaernïol gyfoethog i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.
Mae’r faenor, a llawer o’r nodweddion yn ei gardd furiog, wedi’u rhestru’n rhai Gradd II ers 1976, am fod ‘o ddiddordeb pensaernïol fel plas Gothig-Duduraidd mawr o’r 19eg ganrif sydd wedi cadw’i gymeriad a’i fanylion gwreiddiol.
Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pontyclun ewch i’n hamgueddfa ar-lein