
Mae hon yn daith gerdded gylchol fer (2.5km) sy'n ymweld â rhai o adeiladau hanesyddol Pont-y-clun. Mae'r daith gerdded yn dilyn llwybrau a phalmentydd ac mae'n weddol wastad. Ar bwyntiau rheolaidd ar hyd y ffordd mae arwyddion i’w darllen gyda gwybodaeth hanesyddol.
Mae'r llwybr hwn yn cychwyn ger y Ganolfan Gymunedol sydd wedi bod wrth galon Pont-y-clun ers y 1930au pan gafodd ei hadeiladu gan drigolion lleol di-waith. Cerddwch ar hyd Heol yr Orsaf drwy'r maes chwarae i’r man lle dechreuodd y cyfan ym Mhont-y-clun: yr Orsaf Reilffordd. Agorwyd yr orsaf gyntaf ym mis Mehefin 1850 fel rhan o brif linell De Cymru. Tyfodd yn gyflym i fod yn gyffordd brysur iawn gydag iardiau cynnal a chadw.
Cerddwch i fyny Station Terrace i'r brif ffordd lle byddwch chi'n troi i'r chwith dros y bont reilffordd. Yn yr ardal hon mae tair tafarn sy'n dyddio'n ôl i oes Fictoria.
Dilynwch Heol Llantrisant am tua 400m nes i chi gyrraedd Eglwys Sant Paul, ewch ymlaen a throi i'r dde wrth y gylchfan fechan. Mae'r ardal hon yn eithaf crefyddol, gydag Eglwys Bethel ar y chwith hefyd.
Dilynwch y ffordd hon nes i chi gyrraedd y gyffordd â Clun Avenue a throwch i'r dde yma. Ychydig heibio'r rhandiroedd trowch i'r chwith i'r caeau rygbi a dilynwch y llwybr heibio'r clwb rygbi ac yn ôl i'r brif ffordd eto ger tafarn y Windsor.
Trowch i'r chwith yma ac ewch dros y bont reilffordd, sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, i ganol y dref. Tua 100m ar ôl y bont, trowch i'r chwith i Cerdin Avenue heibio capel Hope ac yna cymerwchyr ail droad i'r dde i Derwen Road ac yna trowch i'r dde eto i Palalwyf Avenue. Byddwch chi nawr wedi cerdded o gwmpas yr 'Ath' fel mae’n cael ei alw’n lleol. Mae hwn yn glwb chwaraeon a chymdeithasol a roddwyd i'r Gymuned gan y teulu Clark dros 100 mlynedd yn ôl ac fe'i defnyddiwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf fel ysbyty ar gyfer milwyr wedi'u hanafu.
Dilynwch y brif ffordd a throwch i'r chwith. Ar ôl cyrraedd Heol y Felin, gallwch chi droi i'r chwith a chael golwg ar yr ysgol gynradd a adeiladwyd gyntaf yn y 1920au. Yn anffodus, yn dilyn gwaith ailadeiladu helaeth pan oedd yn 100 mlwydd oed, does dim ar ôl o'r ysgol wreiddiol. Dafliad carreg o Heol y Felin mae Cofeb Ryfel Pont-y-clun. Wrth i chi gerdded yn ôl tua’r dref, cymerwch olwg ar neuadd hyfryd y Seiri Rhyddion, sy’n dyddio o'r 1930au, ac ewch yn eich blaenau i ganol y dref. Mae croeso cynnes i chi siopa yma ac mae ’na lawer o lefydd da i fwynhau bwyd a diod. Os trowch i'r chwith wrth y groesffordd lle mae Giles Gallery, byddwch chi’n dychwelyd i'r Ganolfan Gymunedol lle dechreuoch chi.