Eglwys Sant Paul

Pontyclun, St Paul's Church

Adeiladwyd eglwys Sant Paul yn 1895 ar gost o £1600. Adeiladwyd gan Mr John Morgan o Bontyclun o gynlluniau a luniwyd gan y pensaer eglwysig E M Bruce esq.

Codwyd yr arian drwy roddion gan y cyhoedd gyda G T Clark o Dalygarn yn rhoi tua £400 o'r cyfanswm. Mae hyn dros £65,000 yn yr arian sydd ohoni.

Trwyddedwyd yr eglwys, a elwid yn wreiddiol yn eglwys Sant Paul yng Ngorsaf Llantrisant, i'w haddoli gan Esgob Llandaf ddydd Iau 27 Mehefin 1895. Roedd yn "eglwys ferch" ym mhlwyf Llantrisant

Wrth i boblogaeth yr ardal o amgylch Llantrisant gynyddu oherwydd datblygiad diwydiannol, ffurfiwyd plwyfi newydd a mwy hylaw, enghraifft oedd gwahanu "Pontyclun a Thalygarn" o blwyf Llantrisant, ac ar hynny daeth Sant Paul yn Eglwys y Plwyf.

Yn 1923 daeth Ardal Gonfensiynol Pont-y-clun a Thalygarn i fodolaeth dan arweiniad y Parch.J.Jones-Davies, a fu'n Curad ym Mhontyclun am y saith mlynedd flaenorol.

Parhaodd yn ficer y plwyf hyd ei ymddeoliad yn 1961.

Am ragor o wybodaeth am ddyddiau cynnar yr eglwys gweler y ddogfen hon.

Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pontyclun ewch i’n hamgueddfa ar-lein

crossmenu linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram