Eglwys Dewi Sant, Meisgyn
Adeiladwyd yr eglwys bresennol ym Meisgyn, a gysegrwyd i Dewi, nawddsant Cymru, ym 1907. Cymerodd le eglwys gynharach o haearn gwrymiog a adeiladwyd ym 1878. Saif yr eglwys yng nghanol y pentref, yn agos i’r Gofeb Ryfel.
Daeth yr arian i adeiladu’r eglwys drwy roddion cyhoeddus a digwyddiadau codi arian, gan gynnwys Ffair Fawr a gynhaliwyd ym Maenor Meisgyn a gododd dros £1,000.
Derbyniodd yr eglwys ei thrwydded ar 23 Rhagfyr, 1907 ac fe’i cysegrwyd yn ddiweddarach gan Esgob Llandaf, y Gwir Barchedig Timothy Rees, ar 23 Ebrill 1933.
Y pensaer a gynlluniodd Eglwys Dewi Sant oedd E.M. Bruce Vaughan, gweithiwr proffesiynol lleol. Un o’r nodweddion amlwg yw’r ffenestr gwydr lliw sydd wedi’i chysegru i’r teulu Rhys-Williams. Dyluniwyd y tair ffenestr liw ddiweddaraf gan Jessie Bayes, un o gymdeithion William Morris a’r artistiaid cyn-Raffaelaidd.
Mae dau lyfryn wedi’u cyhoeddi am yr eglwys – un yn ymdrin â’i hanes a’r llall yn esbonio’r symbolau herodrol y tu mewn iddi. Mae’r rhain ar gael o’r plwyf.
Mae gan yr eglwys statws rhestredig Gradd 2, sy’n cydnabod bod yr adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae manylion llawn y rhestriad i’w gweld ar-lein ar wefan Cadw.
Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pontyclun ewch i’n hamgueddfa ar-lein