
Cysegrwyd Eglwys Dewi Sant, Groesfaen yn OC 1892 gan Esgob Llandaf, a hi yw “merch eglwys” Sant Catwg ym Mhentyrch.
Mae damcaniaeth bod yr Eglwys wedi'i hadeiladu gan y boneddigion lleol i gystadlu â'r eglwys a adeiladwyd gan y Barnwr Gwilym Rhys-Williams ym Meisgyn. Y teulu Dunne o Croffta a'r teulu Martens o Lys Henstaff oedd y noddwyr.
Mae'r eglwys wedi'i hadeiladu ar yr hyn a arferai fod ar gyrion y pentref ond mae bellach wedi'i chanoli yn y Groesfaen oherwydd y datblygiad "newydd" yn Y Parc.
Ar y pryd, cynhaliwyd y gwasanaethau Sul yn gyfan gwbl yn y Gymraeg gan mai ychydig iawn yn y plwyf fyddai wedi deall y litwrgi mewn unrhyw iaith arall. Mae Eglwys Dewi Sant bellach yn gwasanaethu fel Eglwys y Plwyf Creigiau yn ogystal â’r Groesfaen.
Yn hanesyddol roedd y Groesfaen ar lwybr Pererindod Penrhys ac mae'r fynwent yn gartref i sylfaen croes hynafol y credir ei bod yn rhan o un o farciau'r llwybr.
Am ragor o wybodaeth am hanes cymuned Pontyclun ewch i'n hamgueddfa ar-lein