Crefydd ym Mhont-y-clun

Pontyclun, St Paul's Church

Mae crefydd wedi chwarae rhan bwysig yn ein cymuned, fel ym mhob rhan o Gymru. Roedd hyn yn arbennig o wir yn nyddiau cynnar twf Pont-y-clun.

Mae 5 Eglwys/Capel ym Mhont-y-clun, ac mae tri ohonyn nhw’n dal ar agor heddiw yn rhoi gwasanaethau Crefyddol a Chymunedol i'n hardal. Mae hyn yn ychwanegol at 6 arall ym Mrynsadler, Meisgyn a'r Groes-faen.

Eglwys Bethel

Bethel Baptist Church

Mae Bedyddwyr wedi bod yn yr ardal ers canol y 1600au, ond nid oedd yna eglwys tan i Eglwys y Bedyddwyr Bethel, Pont-y-clun gael ei sefydlu gan Charles Higton ym 1876.

Roedden nhw’n cyfarfod yn ystafell flaen y Gweinidog yn Stryd yr Ysgol i ddechrau. Daeth yn rhy fach yn fuan iawn, a chynigiodd adeiladwr, a oedd newydd gwblhau contract ar gyfer y rheilffordd, adael sied iddyn nhw. Cafodd hon ei gosod yn gyflym ar gyfer gwasanaethau.

Erbyn dechrau'r 1880au sylwodd y Parch. Higton a'r gynulleidfa fod angen adeilad mwy o faint. Fe ddaethon nhw o hyd i dir ar hyd y brif ffordd a chysylltwyd â Mr John Cory, dyn busnes Cristnogol blaenllaw yng Nghaerdydd, a chytunodd yn garedig i fenthyg arian ar gyfer yr adeilad. Pan fu farw, gadawodd ei ewyllys yr eglwys yn rhydd o ddyled.

Parhaodd yr Eglwys i dyfu ac yn fuan wedi'r Ail Ryfel Byd cafodd ei gweinidog llawn-amser cyntaf, y Parchedig Idris Jones, ar gyflog o £2 a 15 swllt yr wythnos!

Dros y blynyddoedd gwnaeth yr Eglwys wella'r adeilad, ond fe gaeodd ym 1990 oherwydd difrod storm a symudodd yr eglwys i adeilad pwrpasol newydd ar Heol Meisgyn ym 1993.

Capel Hope Penuel

Hope Penuel Church

Yn gynnar ym 1910, gwnaeth yr aelodau Saesneg eu hiaith yng Nghapel Seion Brynsadler, a oedd yn dechrau cynyddu yn eu niferoedd, ddechrau eu Capel eu hunain ym Mhont-y-clun. I ddechrau, dim ond yn Gymraeg yr oedd Seion yn darparu gwasanaethau, ond gyda'r nifer cynyddol o aelodau uniaith Saesneg dechreuodd gwasanaethau dwyieithog gael eu cynnig. Penderfynwyd nad oedd hyn yn addas a symudodd y gynulleidfa Saesneg gan sefydlu Capel Presbyteraidd Hope.

Wedi dechrau gydag 20 aelod, erbyn diwedd 1911 roedd ganddo 61 aelod, ysgol Sul ac incwm o £333, 11 swllt ac 8 ceiniog. Parhaodd yr ehangu ac ym 1919 ychwanegwyd ystafell ysgol at yr adeilad.

Cyflogwyd y gweinidog llawn-amser cyntaf ym mis Mawrth 1926 (y Parchedig David Stanley Hopkins).

Cwblhawyd gwaith ailadeiladu ac estyniadau pellach yn y 1970au.

Yn 2004 penderfynwyd uno Eglwys Penuel a’r Drindod yn Llantrisant gyda Chapel Hope gan ffurfio Hope Penuel ar 1 Ionawr 2005.

Eglwys Sant Paul

St Paul's Church, Pontyclun

Adeiladwyd eglwys Sant Paul ym 1895 ar gost o £1600. Cafodd ei hadeiladu gan Mr John Morgan o Bont-y-clun ar sail cynlluniau a luniwyd gan y pensaer eglwysig E M Bruce, ysw.

Codwyd yr arian drwy roddion cyhoeddus, gyda G T Clark o Dal-y-garn yn rhoi tua £400 o'r cyfanswm – dros £65,000 yn arian heddiw.

Trwyddedwyd yr eglwys – a alwyd yn wreiddiol yn eglwys Sant Paul yng Ngorsaf Llantrisant – ar gyfer addoli gan Esgob Llandaf ddydd Iau 27 Mehefin 1895. Roedd yn gangen ym mhlwyf Llantrisant.

Wrth i boblogaeth Llantrisant a’r cyffiniau gynyddu oherwydd datblygu diwydiannol, ffurfiwyd plwyfi newydd a mwy ymarferol, e.e. gwahanwyd "Pont-y-clun a Thal-y-garn" oddi wrth blwyf Llantrisant, a gyda hynny daeth Sant Paul yn Eglwys Blwyf.

Ym 1923 daeth Ardal Gonfensiynol Pont-y-clun a Thal-y-garn i fodolaeth dan arweiniad y Parch. J. Jones-Davies, a fu'n Gurad ym Mhont-y-clun am y saith mlynedd flaenorol. Parhaodd yn Ficer y plwyf hyd ei ymddeoliad ym 1961.

Capel y Tabernacl

Tabernacle Chapel (Former)

Adeiladwyd Capel Cynulleidfaol Cymraeg y Tabernacl ym 1892. Saif ar Heol y Bont-faen yng nghanol Pont-y-clun.

Mae'r capel hwn wedi'i adeiladu yn yr arddull Pengrwn Syml gyda dau lawr, cynllun mynediad o’r blaen, ffenestri tal gyda gwydr Y, a ffenestr grwn ganolog.

Yn ei anterth byddai wedi eistedd dros 400 o bobl. Un ymwelydd rheolaidd nodedig â'r capel oedd Clara Novello-Davies a arferai ymweld o Gaerdydd gyda'i chôr a'i mab ifanc (Ivor Novello) i berfformio cyngherddau yma.

Erbyn hyn mae’n cael ei ddefnyddio fel gofod swyddfa.

Capel y Methodistiaid Wesleaidd

Giles gallery - former Methodist Chapel

Adeiladwyd yr hen gapel Methodistaidd Wesleaidd hwn ym 1898 ac mae'n eistedd ar gornel Heol y Bont-faen a Rhodfa Palalwyf ym Mhont-y-clun.

Mae mewn arddull gothig syml gyda mynediad o’r blaen.

Mae ’na garreg arysgrifedig ar y talcen ger y brig sy'n darllen “Bible Christian Methodist AD 1899”.

Mae Cristnogion y Beibl yn fwyaf adnabyddus am eu cysylltiadau Cernywaidd cryf. Gwyddom fod llawer o lowyr Cernywaidd wedi symud yma yn oes Fictoria i weithio’n lleol a byddai'n ymddangos eu bod wedi dod â'u credoau crefyddol gyda nhw.

Erbyn hyn mae’n cael ei ddefnyddio fel Oriel Gelf a siop.

crossmenu linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram