
Mae'r adeilad rhestredig gradd 2 hwn mewn cae i'r gogledd-orllewin o Fferm Cefn-parc, ar y grib sy'n edrych dros yr A4119 a Llantrisant. Mae plant lleol wedi cyfeirio ato dros y blynyddoedd fel "Tŵr y Wrach".
Wedi’i adeiladu yn y 18fed ganrif mae’n debyg, mae’n enghraifft brin o adeilad sy'n gysylltiedig â gwaith mwyngloddio plwm Bro Morgannwg. Mae'r simdde wedi'i gwneud o garreg rwbel. Mae’n tua 3m mewn diamedr a thua 25m o uchder.
Roedd y gwaith wedi dod i ben erbyn 1841 ac roedd yr holl adeiladau eraill ar y safle wedi'u dymchwel erbyn hynny.
Mae map diweddarach yr AO yn awgrymu y gallai hwn hefyd fod wedi cael ei ddefnyddio fel siafft aer ar gyfer pwll glo diweddarach.
Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pont-y-clun ewch i'n hamgueddfa ar-lein