Cofeb Ryfel Meisgyn

Miskin war memorial

Mae Cofeb Ryfel Meisgyn yng nghanol Meisgyn ger y Miskin Arms.

Mae’r gofeb hon yn coffáu trigolion Meisgyn a laddwyd neu a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf (9 enw) a’r Ail Ryfel Byd (4 enw). Rhestrir y rhain ar blaciau du ar y gofeb.

Yn anarferol, rhestrir enwau’r rhai a wasanaethodd (ac a ddychwelodd yn fyw) o’r Rhyfel Byd Cyntaf hefyd.

Mae’n biler pedwar wyneb gyda phlaciau ar bob un, yn sefyll ar blinth gyda phedwar ffigwr gyda meindwr a chroes ar ei ben. Fe’i gwnaed gan y cwmni W. Clarke o Landaf a adeiladodd y gofeb ym Mhont-y-clun hefyd.

Mae pedestal sgwâr tal gyda phen uchaf addurnedig ar blinth sgwâr grisiog. Uwchben mae torchau a chornis dwfn gyda ffris o flodau, ac uwch eu pennau nhw mae cilfachau gyda saethau â chapanau colofnau wedi’u mowldio a bwâu teirdalennog gyda thalcennau pigfain. Yn y canopïau mae ffigurau cerfluniedig o filwr, morwr ac awyrennwr, tra bod nyrs ar y bedwaredd ochr.

Dechreuodd y gwaith ar 14 Mawrth, 1919, gyda Guy Clarke a Mr Gregory yn treulio 18 ½ awr ar y dyluniad. Carreg Portland yw’r garreg ac er iddi gael ei chludo ar drên i orsaf Trelái yng Nghaerdydd, bu’n rhaid ei chludo dros y tir oddi yno.

Cymerodd y gwaith tua 3000 o oriau gyda 17 o ddynion yn cael eu cyflogi ar un adeg neu’r llall (ynghyd â’r amser i dynnu’r garreg o Gaerdydd). Cerfiodd Mr Mills y ffigyrau a Mr Ellis y torchau.

Cwblhawyd y gwaith erbyn 3 Hydref, ond yn ôl yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol ni chafodd ei dadorchuddio’n swyddogol tan 17 Ebrill 1920.

Cafodd cyfanswm cost o £344 a 6 swllt ei godi ar Mrs Williams o Faenor Meisgyn (mae hyn werth tua £10k yn arian heddiw).

Hoffai’r Cyngor ddiolch i Michael Statham am y wybodaeth hanesyddol ar y gofeb ryfel hon.

Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pontyclun ewch i’n hamgueddfa ar-lein