
Mae Coed Ifor wedi bodoli ers o leiaf y 1800au cynnar – mae i’w weld ar fapiau o'r cyfnod hwnnw fel ardal goediog.
Prynwyd y tir gan y teulu Clark fel rhan o ystâd Tal-y-garn.
Trosglwyddodd Wyndham Clark y goedwig i Gyngor Dosbarth Llantrisant ym 1923 i'w defnyddio fel parc cyhoeddus. Trosglwyddwyd perchnogaeth i Gyngor Cymuned Pont-y-clun pan gafodd ei greu ym 1985.
Mae'r coed yng nghanol y goedwig yn goed Ynn yn bennaf, a chawsant eu plannu tua'r 1920au. Mae'r coed o amgylch yr ymylon yn llawer mwy amrywiol ac mewn llawer o achosion yn hŷn. Maen nhw’n cynnwys coed Ffawydd, Derw a Sycamorwydd.
Mae'r goedwig ac Afon Elái gerllaw yn fwrlwm o fywyd gwyllt ac mae glas y dorlan a bronwen y dŵr i’w gweld yn hedfan yn yr ardal yn rheolaidd.
Mae'r goedwig wedi bod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru ers 2025.
