
Arferai Crown Brewery sefyll yn yr ardal lle mae ystâd Clos Brenin heddiw.
Mae'r bragdy’n cael ei gysylltu â chreu Clybiau Gweithwyr yn Ne Cymru yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrif.
Cyflenwyd y clybiau i ddechrau gan y bragdai lleol niferus a oedd i’w gweld ar draws yr ardal.
Wrth i amser fynd heibio, cafwyd anawsterau gyda chyflenwadau, yn enwedig yn fuan ar ôl y rhyfel byd cyntaf. Penderfynodd y clybiau gweithwyr lleol ffurfio cwmni, The South Wales and Monmouth United Clubs Brewery Company Limited, a gwneud eu cwrw eu hunain.
Codwyd cyfalaf drwy gyhoeddi 15,000 o Gyfranddaliadau Cyffredin o £1 yr un a £10,000 o Gyfranddaliadau Ffafriol Cronnus, hefyd ar £1. Er i £15,000 arall gael ei godi y flwyddyn ganlynol, ym 1919 ystyriwyd bod y swm o £25,000 yn ddigon i ffurfio'r cwmni ac i brynu bragdy.
Ym mis Mehefin 1919, cymerwyd opsiwn ar fragdy D & T Jenkins ym Mhont-y-clun – y Crown Brewery – a chwblhawyd y pryniant yn fuan wedyn.
Paratowyd y bragau cyntaf o'r cynnyrch sengl C.P.A. (Clubs Pale Ale) gan y prif fragwr, Capten Rogers, a fu’n swyddog gyda’r marchoglu yn Rhyfel De Affrica. Ar y pryd, dim ond 200 casgen yr wythnos oedd yn cael eu cynhyrchu.
Wrth i amser basio, dechreuodd mwy o glybiau brynu eu cynnyrch – roedd y cynnyrch ei hun yn dda a'r cyflenwad yn ddiogel, ond hefyd roedd bonws yn cael ei dalu ar bob casgen a oedd yn cael ei phrynu. Roedd y bonws hwn yn galluogi'r clybiau i gadw pris peint yn isel.
Erbyn 1936, roedd cwrw potel bellach yn cael ei gynhyrchu ac roedd y bragdy’n cynhyrchu dros 500 casgen yr wythnos.
Parhaodd y galw am gynnyrch y cwmni i gynyddu ac, ym 1938, ychwanegwyd capasiti eplesu ychwanegol a arweiniodd at gynhyrchu 900 casgen yr wythnos.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd roedd y galw’n cynyddu'n gyflym ac ni allai’r hen fragdy ymdopi, felly cynigiwyd bragdy newydd. Torrwyd y tir cyntaf ar 15 Hydref 1951 a chwblhawyd y gwaith ym mis Chwefror 1954.
Unodd y bragdy â bragdy Buckley yn Llanelli ym 1977 i ffurfio Crown Buckley. Daeth y gwaith bragu i ben yma ym 1989 ond parhaodd y potelu am tua 10 mlynedd arall.
Cymerwyd rheolaeth o Crown Buckley gan S A Brain & Co ym 1997 ac ychydig flynyddoedd wedi hynny caewyd y safle a chafodd ei werthu i'w droi’n dai, fel sydd i’w gweld nawr.
Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pont-y-clun ewch i'n hamgueddfa ar-lein