
Castell y Mwnws yw enw’r ardal rhwng Brynsadler a Llanhari. Mae’r enw wedi bod mewn defnydd ers cannoedd o flynyddoedd, ond credir bod ei wreiddiau’n ôl-ganoloesol.
Mae nifer o leoliadau hanesyddol yn yr ardal sy'n dangos defnydd dros amser, yn arbennig:
I'r gogledd o'r ffordd mae olion tramffordd a oedd yma yn ystod argraffiad 1af yr Arolwg Ordnans. Mae hyn yn dangos ei bod yma cyn y 1840au.
Ychydig i'r de mae ceuffordd ganoloesol sy'n rhedeg o eglwys y Santes Anne i Elm’s Farm.
Yn y caeau ychydig i'r de o'r M4 mae olion llawer o gloddiau a ffosydd. Mae'n debyg bod y rhain yn ganoloesol er nad yw hyn wedi'i brofi’n bendant.
Yn y tir lle mae'r M4 bellach roedd ffos gylch Frythonaidd-Rufeinig.
Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pont-y-clun ewch i'n hamgueddfa ar-lein