Canolfan Gymunedol Pontyclun a’r Man Cyfasfod

Canolfan Gymunedol Pontyclun 2026 Canolfan Gymunedol Pontyclun 1977

Adeiladwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Taf Elai yn 1994 ar ôl llawer o bwysau gan Gynghorwyr Cymuned a Bwrdeistref Pontyclun, ar dir a brynwyd trwy roddion cyhoeddus er cof am y Doctor Gordon Jones. Fe’i codwyd ar safle’r ganolfan wreiddiol a adeiladwyd yn y 1930au gan bobl ddi-waith yr ardal.

Yn wreiddiol, roedd yn Ganolfan Gymunedol ar un ochr ac yn Ganolfan Ddydd i'r henoed ar yr ochr  arall.

Yn 2014, cafodd y Ganolfan Ddydd ei throsglwyddo i Gyngor Cymuned Pontyclun a’i hailagor fel Caffi 50.

Mae Caffi 50 yn darparu prydau bwyd am bris rhesymol, grwpiau cymdeithasol a dosbarthiadau ac yn rhoi cyfle i bobl dros 50 i gwrdd â ffrindiau newydd, adnewyddu hen gyfeillgarwch a mwynhau cwmnïaeth.

Defnyddir y ganolfan gymunedol yn helaeth gan y cyhoedd; cynhelir cyfarfodydd gan lawer o grwpiau cymunedol yma. 

Yn 2026, ail-enwyd Café 50 yn y Lle Cyfarfod i adlewyrchu ei rôl gynyddol fel canolfan groesawgar, aml-ddefnydd i’r gymuned gyfan.

crossmenu linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram