Bryn Terrace a Neuadd yr Efengyl  

Bryn Terrace

Adeiladwyd y 5 tŷ yn Bryn Terrace ar ddiwedd y 19eg ganrif, yn bennaf fel tai i weithwyr Tŷ Tal-y-garn.

Roedd hyd at 5 teulu yn byw ym mhob tŷ ar y tro. Nododd cyfrifiad 1901 fod 30 o bobl yn byw yn y tai - dim ond cyplau oedd yn rhifau 2 a 4, felly roedd 26 o bobl yn rhifau 1, 3 a 5!

Wrth ben y teras ar dir a rentwyd gan ffermwr lleol – David Williams o fferm Llwynau, adeiladwyd Neuadd yr Efengyl.

Agorodd ym 1930, gan ddilyn mudiad y Brodyr i ddechrau. Y gweinidog cyntaf oedd Fred Baggs o Lanhari. Yr ail weinidog oedd Clement Barnes a ddaeth o Bennsans (Penzance). Roedd gan Clement a'i wraig 6 o blant ac roedd yn ddyn tân ar y rheilffyrdd ac yna'n yrrwr. Pan oedd yn ddyn tân ei yrrwr oedd Fred Baggs (y gweinidog cyntaf).

Y gweinidogion nesaf oedd Fred Newcombe ac yna gŵr o’r enw Mr Lewis.

Roedd y Neuadd yn boblogaidd gyda 3 gwasanaeth Saesneg yn cael eu cynnal bob dydd Sul a dosbarth Beibl ar nosweithiau Mawrth. Roedd Gobeithlu yn cwrdd yma hefyd ac roedd sioeau llusernau hud yn cael eu cynnal yn achlysurol.

Rywbryd yn y 1960au tynnwyd yr adeilad gwreiddiol i lawr a chodwyd strwythur mwy cadarn yn ei le. Caeodd yr Eglwys ym 1976 ac mae'r adeilad bellach wedi'i newid yn breswylfeydd.

Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pont-y-clun ewch i'n hamgueddfa ar-lein. 

crossmenu linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram