
Mae'r blwch ffôn yng nghanol Meisgyn yn adeilad rhestredig gradd 2.
Roedd dyluniad y ciosg ffôn coch eiconig yn ganlyniad i gystadleuaeth ym 1924 i ddylunio blwch ffôn oedd yn addas ar gyfer Bwrdeistrefi Metropolitan Llundain. Dewiswyd dyluniad gan Giles Gilbert Scott, pensaer Prydeinig.
Cafodd y bocs, a elwir yn K2, ei ddefnyddio gyntaf yn Llundain ym 1926. Awgrymodd Swyddfa'r Post ei fod yn cael ei baentio'n goch.
Cyflwynwyd y K6 ym 1935, wedi'i gynllunio i goffáu jiwbilî arian y Brenin Siôr V. Roedd yn fersiwn lai o'r K2, ac aeth ymlaen i gael ei osod yn doreithiog ledled y wlad. Dyma'r blwch ffôn mwyaf cydnabyddedig ac eiconig, y mae llawer o bobl ledled y byd yn gyfarwydd ag ef. Mae'r blwch ffôn Meisgyn yn fath K6.
Er bod y bocs hwn wedi’i boglynnu gyda choronau Siôr VI (sy'n dyddio o 1936 ymlaen) ni osodwyd y blwch hwn tan 1955, pryd yr oedd y Frenhines Elizabeth wedi bod ar yr orsedd am 3 blynedd.
Yn 2021 trosglwyddwyd perchnogaeth y bocs i Gyngor Tref Pont-y-clun sydd, ar y cyd â gwirfoddolwyr lleol, wedi ei ail-bwrpasu i gartrefu diffibriliwr cymunedol.
Am fwy o wybodaeth am hanes cymuned Pontyclun ewch i’n hamgueddfa ar-lein