3 Llwybr y Cofio Pontyclun

Map of remeberance trail

Mae'r llwybr yn dechrau yn eglwys Dewi Sant Groesfaen, lleoliad ein bedd rhyfel cyntaf. Gan gymryd y lôn o gefn yr eglwys, ewch i'r dde at y cysgodfan bws coffa.  Mae hwn yn cynnwys dau blac coffa a murlun trawiadol â thema pabi. O fan hyn, trowch i'r chwith i lawr y lôn ac ewch ymlaen ar hyd y llwybr troed drwy'r caeau/coed nes i chi gyrraedd ffordd gul. Ewch i'r chwith i lawr hon tuag at Faenor Meisgyn.

Wedi'i ailadeiladu'n helaeth yn 1864, chwaraeodd Maenor Meisgyn rôl allweddol yn ystod Ail Ryfel Byd. Ym 1940 cafodd ei gymryd drosodd gan y Groes Goch a'i ddefnyddio fel cartref ymadfer i bersonél clwyfedig y lluoedd arfog Ar ôl y rhyfel, ym 1948, daeth yn rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a pharhaodd i weithredu fel ysbyty am flynyddoedd lawer.

Ewch trwy'r maes parcio ac allan ar hyd y llwybr ger Afon Elái, gan basio Clwb Criced Maenor Meisgyn. Adeiladwyd y pafiliwn yma i anrhydeddu 5 aelod o'r clwb a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd.  Daliwch ati ar hyd y llwybr a thrwy'r ceunant o'ch blaen yn syth i fyny at ble mae cofeb Ryfel Meisgyn yn sefyll yn falch. Mae'r gofeb yn anrhydeddu dynion lleol a gollodd eu bywydau yn y ddau Ryfel Byd a'r rhai a ymladdodd ond a ddychwelodd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.    

O'r gofeb ewch i lawr ar hyd Ffordd Hensol, ewch dros y rheilffordd heibio i Dŷ'r Capel a Melin Meisgyn. Daliwch ati i fynd ar y ffordd hon ac yn syth ar ôl i chi fynd o dan yr M4 trowch i'r dde i'r llwybr troed sy'n dilyn y lôn sy'n mynd yn gyfochrog â'r M4.

Ar ben y llethr wrth iddo droi’n sydyn i’r chwith, croeswch i’r cae o’ch blaen a dilynwch hwn i lawr nes bod y llwybr yn rhannu. Cymerwch y llwybr hanner chwith i lawr drwy'r coed. Ar waelod y bryn trowch i'r dde a dilynwch y llwybr i mewn i'r coed drwy giât a thros y nant.

Dilynwch y llwybr i fyny'r bryn ac ewch allan dros y gamfa garreg, gan droi i'r dde i'r lôn ar y brig. Ewch heibio rhai tai a Mews Talygarn a daliwch ati nes i chi gyrraedd mynedfa Tŷ Talygarn.

Cymerwch y ffordd i'r dde am tua 30m a dilynwch y llwybr troed i'r chwith i mewn i'r cae. Daliwch ati i ddilyn y llwybr hwn drwy'r caeau heibio i'r cyrtiau tenis ac ymlaen tuag at y briffordd lle mae'r llwybr yn ymuno â hi ym mhentrefan Talygarn.

Pan fyddwch chi'n cyrraedd y briffordd ewch i'r chwith ac yn fuan wedyn, cymerwch y llwybr troed i'r dde i fyny at Eglwys Santes Anne. Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn y 19eg ganrif gan George Clark y meistr haearn a oedd yn berchen ar Dŷ Talygarn. Gellir dod o hyd i olion eglwysi hŷn sy'n dyddio'n ôl i'r 13eg Ganrif yma hefyd. Mae bedd rhyfel ym mynwent yr eglwys.

Dilynwch y ffordd gul o'r eglwys i'r dde a pharhewch nes i chi gyrraedd Lôn Mefus a'i dilyn nes i chi gwrdd â'r briffordd a throi i'r dde. Parhewch ar hyd y ffordd hon i Frynsadler lle mae gan y cysgodfan bws garreg 2 gofeb i ddynion Brynsadler a gymerwyd o hen Gapel y Tabernacl ym Mhontyclun. Mae gan y cysgodfan hefyd furlun sy'n darlunio Tŷ Talygarn a hen fragdy Brynsadler. Ewch ymlaen i fyny'r allt i'r gyffordd a throwch i'r chwith a dilynwch y briffordd i lawr tuag at Bontyclun.

Cyn bo hir, byddwch yn cyrraedd Cofeb Ryfel Pont-y-clun. Mae'r gofeb, wedi'i hysgythru ag enwau'r rhai a fu farw yn y ddau Ryfel Byd, yn gwasanaethu fel canolbwynt gwasanaethau Dydd y Cofio blynyddol y gymuned.

Ewch ymlaen tuag at y siopau a'r busnesau yng nghanol Pont-y-clun. Trowch i'r dde i mewn i Rhodfa Palalwyf wrth oriel Giles ac ewch tua 100m nes i chi gyrraedd Clwb Athletau Pont-y-clun. Roedd yr adeilad hwn a roddwyd i bobl Pont-y-clun gan deulu Clarke yn safle ysbyty yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan ddod â Llwybr y Cofio i ben.

I ddychwelyd i’r Groesfaen cerddwch yn ôl i siopau'r dref, trowch i'r dde a cherddwch ymlaen a thros bont y rheilffordd. Ewch 200m pellach i'r arhosfan bws ar Ffordd Llantrisant. Gallwch fynd ar fws o fan hyn i’r Groesfaen.

Fel arall, trowch i'r dde ychydig cyn yr arhosfan bws i mewn i Rodfa Clun, cerddwch i'r gyffordd T ac ewch i'r dde ar hyd Heol Meisgyn heibio'r cylchfannau nes i chi gyrraedd y brif ffordd A4119. Croeswch a throwch i'r dde tuag at Gaerdydd ac yna i'r chwith wrth dafarn Castell Mynach. Cerddwch ymlaen nes i chi gyrraedd y Groesfaen.

crossmenu linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram